#

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-785

Teitl y ddeiseb: Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Testun y Ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded y mae wedi'i rhoi i NNB Genco, sy'n caniatáu gollwng hyd at 300,000 o dunelli o ddeunydd a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, yn nyfroedd glannau Cymru. 

Rydym hefyd yn gofyn bod cyfnod atal y drwydded yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith Amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad llawn o dystiolaeth annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn rhoi caniatâd i ollwng unrhyw waddodion o Hinkley. 

Mae Trwydded Forol 12/45/ML, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu gwaredu hyd at 300,000 o dunelli metrig o waddod morol a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, ar safle dympio morol Cardiff Grounds yn agos at arfordir de Cymru.  Bydd hyn yn caniatáu i waith ddechrau ar y ddwy bibell newydd yn adweithydd niwclear Hinkley C. 

Mae'r gwaddodion sydd i'w carthu wrth ymyl y pibellau gwastraff a ddefnyddir ar gyfer gollyngiadau o bedwar adweithydd presennol Hinkley. Mae dadansoddiad a gomisiynwyd gan asiantaethau Llywodraeth y DU yn dangos bod y gwaddod wedi'i halogi gan wastraff ymbelydrol a ryddhawyd i'r môr dros gyfnod o 50 mlynedd a mwy o waith ar safle Hinkley. Mae'r cyfrifiadau sy'n deillio o'r data swyddogol yn nodi y gallai'r gwaddodion carthu arfaethedig fod yn dal o leiaf 7 biliwn o Bqs o ymbelydredd, ond mae'r adroddiadau yn nodi y byddai'r symiau y byddai pobl yn dod i gysylltiad â nhw'n isel iawn. 

Mae gollyngiadau ymbelydrol Hinkley i'r môr yn cynnwys dros 50 o radio-niwclidau, ond dim ond tri ohonynt yr ymchwiliwyd iddynt drwy'r dadansoddiad. Felly, bydd cynnwys ymbelydredd gwirioneddol y gwaddodion yn llawer uwch na'r hyn a ddangosir drwy'r dadansoddiad sydd ar gael.   Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hefyd yn awgrymu mai dim ond samplau arwynebol (0 i 5cm o ddyfnder) o'r gwaddodion a ddadansoddwyd, er bod ymchwil samplau craidd o fannau eraill ym Môr Iwerddon yn dangos y gall crynodiadau fod hyd at bum gwaith yn uwch ar ddyfnderoedd islaw 5cm.

Er bod deunydd ymbelydrol gwaddodol yn debygol o wasgaru i ddechrau, mae astudiaethau'n profi ei fod wedyn yn ailgronni ar wastadeddau llaid arfordirol ac aberol a morfeydd heli, a'i fod hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o'r môr i'r tir yn sgil gwyntoedd o'r môr a llifogydd arfordirol.  Rydym yn nodi nad oes ymchwil ar yr hyn sy'n digwydd i ymbelydredd o'r fath yn nyfroedd glannau de Cymru.   Yn y cyd-destun hwn, rydym yn pryderu nad oes gwaith ymchwil digonol wedi digwydd ynghylch y risgiau amgylcheddol a'r risgiau i iechyd pobl yn sgil y gwaredu arfaethedig, a bod unrhyw gasgliadau sy'n seiliedig ar y data anghyflawn presennol yn annibynadwy.                                                                                                      

 

Cefndir

Gwaredu a dympio deunyddiau yn y môr

Mae'r DU yn un o bartïon contractio'r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol drwy Ollwng Gwastraff a Sylweddau Eraill 1972 (Confensiwn Llundain). Mae'r confensiwn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bartïon contractio gymryd mesurau effeithiol i gynnal yr amgylchedd morol a'i warchod rhag pob ffynhonnell o lygredd, gan gynnwys dympio ar y môr. Atgyfnerthir y drefn hon gan Erthygl 4 o Gonfensiwn OSPAR, sy'n ceisio gwarchod môr gogledd-ddwyrain yr Iwerydd a chadw ei adnoddau. Mae'r confensiwn hwnnw'n cyfuno ac yn diweddaru Confensiwn Oslo 1972 ar ddympio gwastraff yn y môr a Chonfensiwn Paris 1974 ar ffynonellau o lygredd morol ar y tir. Daeth y confensiwn, a gafodd ei lofnodi a'i gadarnhau gan y Deyrnas Unedig, i rym ar 25 Mawrth 1998.

O dan Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, mae hierarchaeth yn bodoli o ran gwastraff, a gwaredu yw'r opsiwn olaf a gaiff ei ystyried. Felly, rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais i waredu gwastraff yn y môr ddangos bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi i ailddefnyddio deunyddiau a garthwyd, a hynny mewn modd buddiol. Fel y cyfryw, ni ddylid gwaredu unrhyw wastraff yn y môr os oes dewis amgen ar gael sy'n ddiogel ac yn ymarferol.

Yn ôl Datganiad Polisi Morol y DU (2011):

3.6.1 Most marine dredging and disposal is for the purposes of navigation and existing and future port development, though other works can take place to facilitate the construction of pipelines, outfalls and tunnels. Since 1998, in compliance with international obligations, the UK Administrations have – with some minor exceptions – only licensed the disposal at sea of capital and maintenance dredgings and small amounts of fish waste.

[…]

3.6.5 The primary environmental considerations include the potential risk to fish and other marine life from the release of sediments, chemical pollution and morphological changes including burial of seabed flora and fauna; hydrological effects; interference with other marine activities; increases in turbidity; increases in marine noise; possible adverse effects for designated nature conservation areas and potential destruction or destabilisation of known or unknown heritage assets. Removal of dredged material can also cause adverse impacts to the natural sedimentary systems.

3.6.6 When sediments are contaminated, dredging has the potential to cause significant environmental and health effects through exposure to contaminants in the dredging plume. These contaminants arise from diverse sources such as the legacy of industrial pollution, for example metals and poly chlorinated biphenyls, or historical and current use of antifoulants including tributyltin and heavy metals and new contaminants which are now finding their way into the marine environment, such as flame retardants including poly brominated diphenyl ethers.

Mae nifer o fannau gwaredu agored trwyddedig yn nyfroedd Cymru—er enghraifft, yn Sianel Bryste, Bae Abertawe a'r dyfroedd o gwmpas Sir Benfro ac Ynys Môn. Gellir gweld y rhain ar borth cynllunio morol Llywodraeth Cymru. Mae safle'r “Cardiff Grounds”, sydd wedi'i leoli oddi ar arfordir Caerdydd, i'w weld yn Ffigwr 1.

Mae carthu a gwaredu yn digwydd mewn nifer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol, sydd wedi'u dynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys carthu cyfalaf ar gyfer datblygiadau newydd fel adeiladu neu ehangu porthladdoedd. Gwneir gwaith carthu cynnal a chadw yn rheolaidd er mwyn sicrhau mordwyo diogel mewn mannau fel dociau a dyfrffyrdd. Yn ôl gwefan prosiect ardaloedd cadwraeth arbennig Morol y DU, mae 3,460,000 m3 o ddeunydd yn cael ei garthu bob blwyddyn yn ardal cadwraeth arbennig Môr Hafren neu gerllaw'r ardal honno. Mae'r ardal cadwraeth arbennig honno'n rhan o Safle Morol Ewropeaidd Môr Hafren, sy'n cael ei oruchwylio gan Gymdeithas Awdurdodau Perthnasol Môr Hafren (ASERA). Cafodd  cynllun rheoli drafft (ASERA) a chynlluniau gweithredu drafft awdurdodau perthnasol eu cynhyrchu yn 2011.

 

 

Ffigwr: 1 Mannau dympio ar y môr (safleoedd gwaredu) yn Sianel Bryste

(Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Porth Cynllunio Morol)

 

 

 

 

Deddfwriaeth Trwyddedu Morol

Mae'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n cwmpasu'r drefn trwyddedu morol wedi'i chynnwys yn Rhan 4 - Trwyddedu Morol - o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ("Deddf y Môr").   O dan Adran 66 o Ddeddf y Môr, mae gweithgareddau morol trwyddedadwy yn cynnwys:

§  Gollwng unrhyw sylwedd neu beth yn y môr neu ar wely'r môr neu oddi tano o: 

o   Unrhyw gerbyd, llestr, awyren neu strwythur morwro;

o   Unrhyw gynhwysydd sy'n arnofio; neu

o   Unrhyw strwythur ar dir a adeiladwyd neu a addaswyd yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o ollwng unrhyw solidau yn y môr.

§  Adeiladu, altro neu wella gweithiau yn y môr neu uwch ei ben neu ar wely'r môr neu oddi tano;

§  Defnyddio unrhyw gerbyd, llestr, awyren, strwythur morwrol neu gynhwysydd sy'n arnofio i symud ymaith unrhyw sylwedd neu beth oddi ar wely'r môr; a

§  Gwneud unrhyw fath o garthu, boed a yw'n cynnwys tynnu unrhyw ddeunydd o'r môr neu o wely'r môr ai peidio.

Yn aml, mae gweithgareddau trwyddedig yn cynnwys samplu er mwyn cael cipolwg, atgyweirio morgloddiau neu argloddiau, gosod pontynau ac atgyweirio llithrfeydd. Mae nifer o eithriadau wedi'u nodi yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (PDF 244KB).

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer dyfroedd Cymru hyd at 12 milltir forol o’r lan - rhanbarth fewnforol Cymru. Bydd Deddf Cymru 2017 yn datganoli pwerau trwyddedu morol i gynnwys rhanbarth alltraeth Cymru (o 12 milltir forol hyd at y llin ganol gydag Iwerddon, Lloegr ac Ynys Manaw).  Ar hyn o bryd, mae'r gwaith trwyddedu morol yn rhanbarth alltraeth Cymru yn cael ei weinyddu gan y Sefydliad Rheoli Morol("MMO").

Cafodd y broses o weithredu'r gyfundrefn trwyddedu morol yn y rhanbarth fewnforol ei dirprwyo i Gyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2013, a hynny drwy Orchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013. Caiff y drefn hon ei gweinyddu gan Dîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru (MLT).  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhestr o geisiadau trwyddedu morol a gyflwynwyd ac y penderfynwyd arnynt ar ei wefan. Cyn y sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru, bu Uned Caniatadau Morol Llywodraeth Cymru yn ymdrin â thrwyddedu morol.

Penderfynu ar gais

Mae Adran 69 o Ddeddf y Môr yn nodi bod yn rhaid i'r awdurdod trwyddedu, wrth benderfynu ar gais, roi sylw i'r materion a ganlyn:

§  (1a) Yr angen i warchod yr amgylchedd;

§  (1b) Yr angen i warchod iechyd pobl;

§  (1c) Yr angen i atal ymyrraeth â defnyddiau dilys o’r môr, ac unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol ym marn yr awdurdod. 

O ran pwynt 1c, bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal asesiad effaith amgylcheddol o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol) 2007 (fel y'u diwygiwyd) ac asesiad rheoliadau cynefinoedd o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010. Yn absenoldeb cynllun morol i Gymru, sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, rhaid rhoi sylw i Ddatganiad Polisi Morol y DU.   Yn ogystal, rhaid i'r gweithgareddau hyn gydymffurfio, inter alia, â Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol Ewropeaidd a Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewrop.

Gwneud penderfyniadau (yr hawl i apelio, galw i mewn, atal trwydded forol a chyhoeddi hysbysiadau atal)

O dan Ddeddf y Môr, nid oes amserlen statudol yn gysylltiedig â gwneud penderfyniad ar drwydded forol. Mae gan ymgeiswyr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr awdurdod trwyddedu o dan Adran 71 o Ddeddf y Môr. Rhaid gwneud apeliadau yn unol â Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio yn erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) Cymru 2011.

Yn Lloegr, o dan y Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Diwygio) 2015, gall yr Ysgrifennydd Gwladol alw cais trwyddedu i mewn. Nid yw Gorchymyn Dirprwyo Cymru yn cynnwys proses galw i mewn (adfer) o'r fath.

Mae Adran 72 o Ddeddf y Môr yn darparu gweithdrefn ar gyfer amrywio, atal neu ddirymu trwydded. Mae nifer o resymau dros atal trwydded, gan gynnwys achosion lle bu newid mewn amgylchiadau sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu iechyd pobl (3a), neu yn sgil gwybodaeth wyddonol bellach sy'n ymwneud â'r naill neu'r llall o'r ddau fater hynny (3b). Mae Adran 102 o Ddeddf y Môr yn caniatáu i'r awdurdod gorfodi (Gweinidogion Cymru) gyhoeddi hysbysiad at ddibenion atal gweithgarwch, yn amodol ar fodloni nifer o feini prawf.

Mae Adran 100 o Ddeddf y Môr yn rhoi pŵer penodol i Weinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu, roi cyfarwyddiadau o ran perfformiad swyddogaethau dirprwyedig o dan y Ddeddf. Ar ben hynny, mae Erthygl 11 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau.

Trwydded Forol: 12/45/ML

Ar 11 Gorffennaf 2014, cyhoeddwyd trwydded forol 12/45/ML gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn gweithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu (Gweinidogion Cymru), i'r trwyddedai - NNB Genco[1].

Mae'r disgrifiad o'r sylweddau neu'r eitemau i'w hadneuo yn safle gwaredu “Cardiff Grounds” (LU110) fel a ganlyn:

Arisings from the capital dredge (and secondary dredge during construction) associated with the preparation of the offshore site for the cooling water infrastructure for the proposed new nuclear power station at Hinkley Point. These arisings as described in Marine License Application dated 06 August 2012.

Arisings from the capital dredge of the berthing pocket for the Hinkley Point C Project Temporary Jetty. These arisings as described in Marine Licence Application dated 13 September 2012.

Mae Adran 9 o'r drwydded yn nodi amodau penodol y prosiect, sy'n cynnwys yr amodau a ganlyn:

9.1 The Licence Holder must submit a proposal for a monitoring programme of the disposal site and immediate environs to Natural Resources Wales acting on behalf of the Licensing Authority for written approval at least 12 weeks before any disposal operation. The scheme will include details of pre, during and post disposal operation surveys, and any actions to be taken as a consequence of the survey findings. The purpose of the scheme will be to enable the avoidance of significant build up of material and any consequent shallowing.

[…]

9.3 The Licence Holder must submit a proposal for a sediment sampling scheme of the source sites and immediate environs to Natural Resources Wales acting on behalf of the Licensing Authority for written approval at least 6 months before any disposal operation to occur after 4th March 2016. The scheme will include details of sampling grid, analyses suites (including any appropriate radiological assessment) and proposed format of a report determining the suitability of the material for disposal at site LU110 along with timescales for carrying out these actions.

9.4 The Licence holder must ensure the sediment sampling must be undertaken in line with the agreed scheme, as referenced in paragraph 9.3. Sampling scheme reports must be submitted to Natural Resources Wales acting on behalf of the Licensing Authority within the timescales agreed within the scheme.

9.5 The Licence Holder must ensure that no material is deposited after 4th March 2016 without written confirmation from NRW, acting on behalf of the Licensing Authority, that they are satisfied the material is suitable for deposit at site LU110.

Hinkley Point C

Mae'r gwaddodion a gaiff eu carthu a'u gwaredu yn y môr o dan drwydded forol 12/45/ML yn gysylltiedig ag adeiladu system dŵr oeri ar gyfer Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn ne-orllewin Lloegr. Mae EDF Energy yn adeiladu dau adweithydd niwclear newydd yn Hinkley Point C, a fydd yn gallu cynhyrchu cyfanswm o 3,260MW o drydan. Mae'r safle wedi ei leoli ger Hinkley Point B, sy'n weithredol ar hyn o bryd, a Hinkley Point A, sy'n cael ei ddatgomisiynu. Cafodd y prosiect ganiatâd cynllunio ym mis Mawrth 2013 ar ffurf Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Amcangyfrifir y bydd 200,000m3 o ddeunydd ar y mwyaf, a bydd y deunydd hwn yn cael ei osod ar gychod a'i gludo i'r “Cardiff Grounds” i'w adneuo.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafodwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur. Er enghraifft, gofynnwyd cwestiwn yn ei gylch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gan Neil McEvoy AC ar 20 Medi 2017, a  gofynnwyd cwestiwn yn ei gylch i'r Prif Weinidog gan Leanne Wood AC ar 26 Medi 2017.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ddatganiad ar ynni ar 6 Rhagfyr 2016, a oedd yn cynnwys y sylwadau a ganlyn:

Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen cymysgedd o wahanol dechnolegau o wahanol feintiau, o raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Yn y tymor canolig, mae hyn yn golygu newid i gynhyrchu carbon isel, sy'n cynnwys niwclear.

Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn (26 Medi 2017) gan Leanne Wood AC ynghylch dympio deunydd o Hinkley Point C yn nyfroedd Cymru, dywedodd y Prif Weinidog:

Wel, mae hi'n dweud hanner y stori.  Yn gyntaf oll, mae hi'n gwybod yn iawn nad Gweinidogion sy’n gyfrifol am drwyddedu; corff allanol sy’n gyfrifol— dyna'r holl bwynt—fel bod y wleidyddiaeth yn cael ei chymryd allan ohoni. Yr hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn yw bod un person wedi dweud y gallai fod problem yma.  Wel, wrth gwrs, mae angen rhoi sylw i’r mater hwnnw, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma gan fod y gwastraff o Wylfa yn mynd i Loegr, a byddai’n cau ar unwaith pe na byddai am waith ailbrosesu Sellafield.

Mae ganddi safbwyntiau ar ynni niwclear na fyddwn i’n eu rhannu efallai, ond mae'n rhy syml i ddim ond dweud, 'Wel, gwastraff niwclear sy'n cael ei allforio o Loegr i Gymru yw hwn.'  Rydym ni’n allforio llawer mwy allan i Sellafield. Felly, nid wyf yn derbyn bod hwn yn fater mewnforio ac allforio.  Lle mae gennym ni ynni niwclear, mae'n bwysig bod cyfleusterau gwaredu digonol, ond mae cyflwyno hyn fel brwydr syml rhwng Cymru a Lloegr yn anwybyddu'r ffaith bod gennym ni ein gorsaf bŵer niwclear ein hunain, ac nad oes gennym ni ein cyfleusterau gwaredu ein hunain; rydym ni’n dibynnu ar Loegr i ymdrin â'r gwastraff sy'n dod o Wylfa.

Ar 29 Medi 2017, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad o dan y teitl 'Trwydded forol ar gyfer cael gwared ar ddeunydd a garthwyd wedi adeiladu Hinkley Point C'.  Mae'n nodi:

I esbonio, mae'n bwysig nodi nad trwydded yw hon ar gyfer cael gwared ar wastraff niwclear.  Trwydded yw hi i gael gwared ar waddodion sydd wedi'u codi o Aber Hafren.   Hyd yma, nid oes unrhyw waith gwaredu wedi'i gynnal.  Byddwn yn samplu unrhyw ddeunydd sydd wedi'i godi ac sydd am gael ei waredu a bydd yn rhaid i CNC roi cymeradwyaeth ysgrifenedig cyn y gellir gwaredu unrhyw ddeunydd o dan y drwydded.  Gallaf dawelu ofnau aelodau fod gennym broses asesu gadarn i ddiogelu amgylchedd y môr ac iechyd y cyhoedd, heddiw ac yn y dyfodol.

Mewn perthynas â'r Asesiad Effaith Amgylcheddol cysylltiedig:

Daeth ceisiadau i gael gwared ar ddeunydd wedi'i garthu i law'r Uned Caniatadau a chawsant eu prosesu yn unol â gofynion yr MCAA a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol) 2007 (fel y'i diwygiwyd) (MWR).  Daeth dau gais ar wahân i law (gan i'r deunydd gael ei garthu o ddau safle - yr ardal o gwmpas y lanfa dros dro a gwaith arall yn y môr) ond un drwydded a roddwyd.  Dengys y cofnodion bod y ceisiadau i waredu deunydd yn nyfroedd Cymru wedi ystyried yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol prosiect Hinkley Point C.

Mae'r broses cloriannu ceisiadau morol yn cynnwys asesiad trylwyr a chadarn o'r prosiectau ar sail y meini prawf canlynol:

• Diogelu amgylchedd y môr

• Diogelu iechyd pobl

• Peidio ag amharu ar weithgareddau dilys eraill yn y môr.

O gofio'r safle y daeth y deunydd ohono, sef Hinkley Point C, cynhaliodd Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) asesiad ymbelydrol fel rhan o broses cloriannu'r ceisiadau, ac ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr (gan gynnwys y prif reoleiddiwr niwclear yn Asiantaeth yr Amgylchedd), ni fynegwyd unrhyw ofidiau ynghylch y lefel radiolegol.

Roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r ddeiseb hon, a ddaeth i law ar 24 Hydref 2017, yn nodi ei phryder ynghylch canfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn ac yn cyfeirio at ei datganiad ysgrifenedig ar y mater.  Nododd ei llythyr mai Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu morol yng Nghymru a oedd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r drwydded ac mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdani, gan gynnwys sicrhau cydymffurfio â'r amodau sydd ar y drwydded. Yna, tynnodd y Gweinidog sylw at amodau 9.3 a 9.5 o'r drwydded (sydd wedi'u nodi uchod yn yr adran ar Drwydded Forol: 12/45/ML).  Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet i Gadeirydd y Pwyllgor ystyried nifer o bwyntiau wrth ystyried y ddeiseb, gan gynnwys y pwyntiau a ganlyn:

Mae nifer o amodau yn y drwydded forol sy'n galw am samplo a phrofi deunyddiau sydd i'w gwaredu ac mae'n rhaid i CNC gymeradwyo hyn cyn i unrhyw waredu ddigwydd. [...]

Nid oes unrhyw ddeunydd wedi'i waredu o dan delerau'r drwydded hyd yma a dim ond os bydd canlyniad samplo'r deunydd yn dangos ei fod yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr fydd hyn yn digwydd.

Hefyd, yng ngoleuni rôl Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag apeliadau o dan y drefn trwyddedu morol, dywedodd nad oedd yn briodol i Weinidogion gynnig sylwadau ar agweddau penodol o'r penderfyniadau a wneir ynghylch trwyddedu morol. Dywedodd y dylid cyflwyno sylwadau ynghylch y penderfyniad hwn i Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol, ac nid i Weinidogion Cymru.

Yn olaf, o ystyried bod pobl yn parhau i bryderu am y mater hwn, nododd Ysgrifennydd y Cabinet:

...byddaf yn gofyn i'm swyddogion ystyried gyda CNC sut y gallant rannu gwybodaeth am y drwydded hon cyn gliried ac agored â phosibl i geisio lleihau pryderon pobl.

 

 

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Mae NNB GenCo Limited yn is-gwmni sy'n eiddo i EDF Energy.